Dark Mode

Neidio i'r cynnwys

Ffuglen

Oddi ar Wicipedia
Ffuglen
Enghraifft o:genre o fewn celf
Y gwrthwynebffeithiol
Yn cynnwyswork of fiction
Dynodwyr
Freebase/M/02xlf
QuoraFiction
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Golygfa o Culhwch ac Olwen, Culhwch ac Olwen yn llys Ysbaddaden

Ffuglen yw gwaith sy'n adrodd stori nad yw'n hollol seiliedig ar ffeithiau. Y prif bwrpas fel rheol yw difyrrwch, er y gall fod gan yr awdur amcanion eraill hefyd. Gall fod yn ysgrifenedig neu ar lafar. Er enghraifft, credir fod chwedlau fel Pedair Cainc y Mabinogi a Culhwch ac Olwen wedi dechrau fel chwedlau llafar, ac wedi cael eu rhoi mewn ysgrifen yn ddiweddarach, er bod beirniaid ac ysgolheigion yn anghytuno pa bryd y bu hyn.

Ymhlith elfennau pwysicaf ffuglen mae cymeriadau, plot (cynllun y stori) a lleoliad. Ceir nifer o wahanol ffurfiau o ffuglen ysgrifenedig; y mwyaf cyffredin yw'r nofel a'r stori fer. Gellir hefyd dosbarthu ffuglen yn ol genre, er enghraifft Ffuglen wyddonol.

Fel rheol mae ffuglen ar ffurf rhyddiaith greadigol.

Wiciadur
Chwiliwch am ffuglen
yn Wiciadur.